Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AR DROTHWY BLWYDDYN NEWYDD.

BETH, beth yw cyfrinachau
Y flwyddyn newydd hon?
Pa rif o newidiadau?
Pa faint o'r lleddf? a'r llon?
Mae ffael neu ffawd
Y cartref tlawd,
A thynged llywodraethau,
Yn llechu ar ei rhawd.

Disgwylia'r glwth a'r ynfyd
Bleserau gwamal fryd;
Mae yntau'r gweithiwr diwyd
Yn disgwyl tro ar fyd.
'Does neb yn awr
Trwy raddau'r llawr
All wel'd trwy lenni'r flwyddyn
Droadau'r olwyn fawr.

Edrycha'r ieuanc nwyfus
Ymlaen trwy lygaid llon,
A gwêl anelwig enfys—
Arwyddlun modrwy gron.
Pa hanes fydd
I'r denol ddydd ?—
'Dall Gobaith wel'd mo'r Siomiant
O borth y flwyddyn gudd.

Tra'n ofni Mawrth ac Ebrill,
Disgwylia'r hen a'r claf
Y lwydlas Gôg a'i deusill,
A hyfryd wenau haf;
A gall ca'r ddau
Wel'd hafddydd clau—
A gweled llygaid gloywach
Cyn hynny wedi cau.