Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLWYBRAU BRO MEBYD.

TYR'D, gof, yn ffrynd llednais, i gyrrion a gerais,
Hyd lwybrau di-falais a gerddais i gynt;
Hedd-erwau dyddorol yr awydd foreol,
Dan siriol faeth hudol fyth, ydynt.

Hen lennyrch fy rhyddid, anëon, di-newid,
Ynt hwy,—a di-ofid, dybygid, eu byw;
Nid yw'r byd a'i helynt yn trystio fawr trostynt:
'Rhyn oeddynt (hawnt iddynt!) ynt heddyw.

O, dyner le dinod a thene'i fythynnod!—
Ni chododd rhyfeddod i glod ym Mhant Glâs;
Er hynny pe gwelwn ei wawdio, mi lidiwn;
A hwn a hawdd enwn yn ddinas.

Mi wela'r hen felin, oedd i mi'n gynefin,
Yn edrych fel dewin f'ai flin ac aflêr;
A'r afon fach ryfedd ei rhin a'i chyfaredd,
Ro'i wedd o ddwr-liwedd ar lawer.

Awn heibio'r hen olwyn (nid yw yn ein hadwyn),
I wrando yr achwyn sy'n oergwyn Cae'r Nant;
A gweled y gwyngyll roes enw i'r Nencyll,
A'r brithyll go unwyll ei geunant.

Gwêl draw Bant Glas Ucha'n mwynhau ei hen hafan,
Bryn Marsli a'r Cwmbran, yn lân a di-lol;
Y Caerau'n cu arwain hyd ochor Bodychain—
Pob llain a'i harwyrain berorol.

Ond awn i lechweddau'r Graig Goch a'i grug lethrau,
Ei phoethwal, a'i phwythau o liwiau mor lân,
Lle gwelsom gŵn hynod Ynysfor yn gorfod
Rhoi clod i lwynogod anegwan.