I lawr wele feillion dôl dawel Taiduon,
A'r hen gapel tirion sy drymson ei drem,
A'i fynwent o dywod, lle huna llu hynod,
A rhai o dai dinod adwaenem.
A dacw'r Llystynod, a'r Nencyll diymod,
A hwythau'r Derwinod fu rwysgnod y fro;
Terfynau, Tŷ'r Dewin, a Phant Glas y Cennin;
Bwlch Derwin i'r Llewin yn llywio.
Draw'r Hengwm a ery, uwchlaw Y Mynachdy,
Lle gwelsom gnau'n tyfu i'n denu'n ddi dwyll;
Hen Gors y Wlad hawddgar, tre gwron y lwysddart,
Ac Edwart, ga'i libart goleubwyll.
Llwyn Gwanad, ac Ynys rhyw Hwfa anhysbys,
A ddaliant yn ddilys ger Ynys yr Arch,
A'r esgud bur Ysgol a dynnai lu doniol
Amrywiol yn chwyfiol i'w chyfarch.
Ac wele'r drig hwylus, Gyfelog ofalus,
A fyddai mor foddus roesawus ei swn;
A deil fyth y diliau, y dorus fwynderau,
Y doniau, a'r geiriau a garwn.
Tan y Ffordd yn yr unfan, a Than y Foel ddiddan,
A Phont Ynys Bowntan yn gyfan, a gaf,—
Hen Ynys eneiniwyd: yr hwyl ar ei haelwyd
Ddi—annwyd hi gafwyd a gofiaf!
O, gân y teg enwau, tyn atat y nodau,
'Rwy'n awr dan rin oriau y dyddiau brwd, iach:
Arhoaf i'r awyr o'm hogylch ymegyr,
A chyffyr swn difyr sain Dwyfach.