Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cartrefle dysg ddi-falchder,
Hoff dre prophwydi, yw
Y Bala—ddysgodd lawer
I drin arfogaeth Duw.
Er mwyn ei hen barchedig
Athrawon pur, di—lŷth,—
Er mwyn y dwyfol nerthoedd fu
Yn tramwy trwyddi oddi fry,
Mae'r oll yn gysegredig
O gylch Y Bala byth.
GWYLDER.
NID oes ar y ddaear un
Hafal gamp i brydferth fun;
Ac o'i holl addurnau hi
A'i thlyseddau a'i rhinweddau,
Gwylder yw yr ucha'i fri.
Ni rydd addysg gwlad na thref
Dlysed addurn ag yw ef;
Ac heb hwn i harddu merch
Ni wna dysgu fwy na chysgu
I'w mawrhau yn syniad serch.
Beth sy'n rhoddi gwylder gwir?
Calon dda a synwyr clir,—
Gwell na hwn y gwylder cu
Sydd yn dyfod megis cafod
Dyner, dyner oddi fry.