Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MEDDYLIAU MAM.

NA, nid yw Dafydd eto'n fyw,
Waeth beth a dd'wedwch chwi:
Daw'n fynych sibrwd i fy nghlyw
O'r pellder hwnt i'r lli,
Yn dweyd mor erch rhyw ddamwain fawr,
A gwelwed aeth ei wedd,
A'i fod er's llawer dydd yn awr
Mewn distaw ddinod fedd.

Deng mlynedd llawn sydd er pan aeth
I'r pell Orllewin dir,
A hirion bump er pan y daeth
Ei lythyr ola'n wir.
Dywedwch chwi mai rhyw lacad
Neu angof barodd hyn,
Ond gwell y gwyr ei fam a'i dad
Am serch eu bachgen gwyn.

Ei feio wnewch, a'i feio bu
Ei fam ar ambell awr,
A gwel'd Virginia'n erchyll ddu,
A hi, Nevada fawr;
Ond gwn na thawsai Dafydd ddim
Mor oer a hyn pe'n fyw,—
Y gyr'sai ambell lythyr chwim
Llonni mam sydd wyw.

Gofalus a charedig iawn
Oedd Dafydd yn ei wlad;
Ni choeliaf iddo ddysgu'r ddawn
O wadu mam a thad.
'Rwyf fi yn myn'd i'r wlad sydd well:
Os Dafydd adre ddaw,
Dywedwch fod ei fam ymhell
Yn disgwyl am ei law.