Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GOBAITH GWELL.
A MI mewn myfyr am a fu
Yn fy nghell—
Yn crwydro trwy helyntoedd lu,
Fel rhyw awel
Dyner, dawel,
Daeth i'm clyw sibrydol sû—
"Gobaith gwell."
Wrth groesi llawer llannerch lom
Ar y daith.
Fe ddaeth sydyn storom drom,
Gan ddyrysu
Pob melysu;
Hudol obaith drödd yn siom
Lawer gwaith.
Ond wedi pob ystormus nos
Torrodd gwawr,
Ac eilwaith troai'r wlad yn dlos:
Wrth y gofid
Nad anghofid
D'wedai Rhywun tyner, "Dos"—
Rhywun mawr.
I mi mewn myfyr am a fu
Yn fy nghell—
Yn cofio llawer noson ddu,
Ac yn cofio
Oriau nofio
Ar obeithion, pêr y sû
"Gobaith gwell."