Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cathlau'r Bore.

ERYRI.

(Alaw,—Llwyn Onn.")

YR eres Eryri, fro hudol fawrhydi,
Ei llennyrch i'n llonni rydd hi'n ddi-wahardd;
Fan yma'n fûn emol, mewn ifanc drem nefol,
Yr awen chwareuol yn chwyfiol a chwardd.
Ymryson mae rhesi o gennog glogwyni
I adrodd gwrhydri hen gewri fu gynt,
A seinio'r tlws enwau a gâr yr holl gyrrau
I lanw'n calonnau â gwenau wna'r gwynt.

O didau'r gwastadedd, o boenau pob annedd,
A miri pob mawredd di-hedd, awn am hoen
A heddwch neuaddau y chwyddog lechweddau,
A rhyddid mawreddau y bannau di-boen.
Da fwrw difyrrion a gawn yn ddi-gwynion,
Heb eiliw helbulon i huddo'n mwynhad,
A newydd egnion ry' olew'r awelon
I loywi alawon gor-glysion ein gwlad.