Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O! melys ger moelydd, ar addas foreddydd,
Yw rhodio tra'r hedydd a'i gywydd fel gwin
Hyd weunydd rhedynnog y maswellt a'r mwsog,
A'r awyr lân rywiog yn wresog o rin.
I'r bannau derbynnir y mwyniant ddymunir,
Hyfrydwch y frodir a gludir i'n gwledd;
Hen dyrrau ein dewrion a'u celyd encilion
Hir erys i'r wyrion yn rhadlon dir hedd.


PEDAIR GOLYGFA.

I.
FE'I gwelodd pan ddywedai
Ei diniweidrwydd glân
Paham o'i weld y gwridai
Ei gruddiau fel y tân,-
Mai ef yn fwyaf garai
O'r bechgyn, fawr a mân.

II.
Fe'i gwelodd wedi hynny
Yn firain riain rydd,
Yn ddigon tlws i synnu
Dihalog burdeb dydd,
A'i galon yntau'n crynnu,
A'i bywyd yn ei rudd.

III.
Fe'i gwelodd fel angyles
Un difyr hwyrddydd haf,
A'i llaw yn dweyd ei hanes,
A gwrid ei boch yn glaf,
A'i llafar yn ei mynwes
Yn distaw sibrwd-Gwnaf!