Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV.
Fe'i gwelodd wed'yn hefyd,
Wrth allor gwynnaf lys,
A breuddwyd per ei fywyd
Yn sylwedd am ei bys,
Ac arwydd oes o wynfyd
O gylch ei thrydydd bys.


"HEN GLOC MAWR Y DRE."
(Caernarfon.)

MI blethaf gerdd o adgof am Hen Gloc Mawr y Dre :)
Ffyddlonaf gennad Amser chwim, diorphwys, oedd efe;
A hawdd yw teimlo'n addig at gelf olygus wedd
Am foddio mympwy calon neb drwy'i symud ef o'i sedd;
Mi daeraf hyd yr eitha' nad all cywreinrwydd chwaith
Byth ffurfio'r un-waeth am ei lun-medruasch gyda'i waith.
Na, agos mewn perffeithrwydd i danllyd gloc y ne'.
A'i gynrychiolydd ar y llawr oedd Hen Gloc Mawr y Dre.

'Roedd ef yn cofio'r cyfnod pan oedd Ardalydd Môn
Yn faer y dref (am dano ef am oesoedd maith bydd sôn!);
A chyson wasanaethodd 'rol hyn i lawer to
Breswyliodd dref Caersallwg, ac i eraill ar eu tro.
Tramwyodd cenedlaethau dan fwa'i seilfan gref,
A llawer dydd a llawer nos aeth rhwng ei fysedd ef
Yn ol i dragwyddoldeb, tra sefyll yn ei le
I droi'n glywadwy swn eu traed wnai Hen Gloc Mawr y Dre.