Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diwydrwydd oedd ei elfen, cysondeb oedd ei nod,
Ffyddlondeb pur ei ddidwyll fron enillodd iddo glod.
Ni wyddai beth oedd seibíant, ac ni chroesawodd ludd:
'Roedd fel ei feistr, Amser, wrth ei orchwyl nos a dydd.
Tra'r hunai deiliaid llafur ym mreichiau'r ddunos laith,
Tra natur mewn tawelwch dwfn, ceid ef yn gwneud ei waith;
A phan agorai emrynt y bore, pawb trwy'r lle
A elwid eilwaith at eu swydd gan Hen Gloc Mawr y Dre.

'Roedd pawb yn edrych arno trwy oesoedd megis tad
A chywir safon amser i holl glociau'r dref a'r wlad.
Os hoffai rhywun wybod yr amser yn ei le,
Fe holai yn bwysleisiol iawn, "Faint yw hi ar y Dre?"
Edrychai llawer cymrawd ei oriawr yn ei wydd,
Ac os na byddai yn ei lle ca'i oruchwyliaeth rwydd
"Y pum bys," neu'r oriorydd; ond mawr ymffrostiai e'
Os gallai brofi ei bod hi'n myn'd fel Hen Gloc Mawr y Dre.

Rhyw Jonah mawr rhybuddiol ar safle uchel oedd:
Ar ben pob awr y'nghlyw y dref pregethai ef ar goedd.
Anghofio'i lais nis gallaf: disgynnai ar fy nghlyw
Fel llais o dragwyddoldeb pell, gyrhaeddai'r enaid byw.
A chredaf y bu'n foddion à'i dreiddiol seiniau syn
I ddeffro cydwybodau lu o ddyfnaf gwsg cyn hyn.
Pwy wyr na phriodolir gan rai sydd yn y ne'
Eu hargyhoeddiad cyntaf i Hen Awrlais Mawr y Dre?

Henafol swyddog Amser! rhoes lawer tic erioed,
Ac ar ei wisg pob eiliad chwim adawai ol ei throed.
Daeth awr ei ymddatodiad-mae yntau wedi myn'd
Oddiwrth ei waith i blith a fu, fel llawer ffyddlon ffrynd.
Ond os aeth ef i orphwys, mae'i feistr megis cynt
O ddydd i ddydd, o awr i awr, ar ei ddilestair hynt.
O barch i'w goffadwriaeth, rhoer colofn ger ei le,
A cherfier arni, "Ni chaed twyll yn Hen Gloc Mawr y Dre."