Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DRAW YMHELL.
(Efelychiad).

DRAW ymhell mae'm cartref—draw ymhell,
Wrth fynyddig lan gusana'r lli.
Gweled 'rwyf bob dydd fy mrodyr rhydd
Ger y llwyn, a'm chwaer a'i blodau hi,
Draw ymhell.

Draw ymhell mae 'mreuddwyd—draw ymhell,
Pan y dawel nos deyrnasa'n hardd.
"Blentyn mwyn," medd llais yr hon a'm cais,
"Dilyn fi i'r cartref byth a chwardd—
Draw ymhell,"

Draw ymhell mae 'ngobaith—draw ymhell,
Lle gall cariad adfer ieuanc hoen.
O na chawn d'adenydd, g'lomen glws,
I ehedeg draw i'r lan ddi boen
Draw ymhell!


NOSWYL Y GWEITHIWR.

LLAFURUS yw'r gweithiwr di—fost ym mhob hin
Yn elwa cynhaliaeth i'w deulu,
A mynych y teimla'i ewynnau yn flin,
A'i nerth bron a hollol ddiflannu;
Ond cyson, fel morwyn trugaredd, daw'r hwyr,
A'i llenni cysgodol a'i llonant;
Caiff danynt hwy daflu ei flinder yn llwyr,
A threulio byrr Sabboth o seibiant.

Ar derfyn y dydd y gweithiwr yn rhydd
A frysia i roesaw ei breswyl;
Ar aelwyd lawn hedd, a gwên ar bob gwedd,
Ynysoedd o nef rydd ei noswyl.