Fe'i ceir dan awdurdod a defod trwy'r dydd,
Yn manwl gyflawni'r gorch'mynion;
A rhwymau yr amod yn dynnion y sydd
Am dano tra wrth ei orchwylion;
Ond dryllia yr hwyr ei gadwynau bob un,
Daw esgyll ei ryddid i ysgwyd;
A chaiff fod yn frenin bach dedwydd ei hun
Ar dlysion anwylion ei aelwyd.
Ar derfyn y dydd, &c.
Yng nghôl ei lân annedd mor siriol ei wedd,
Yn edrych ar hedd ei lywodraeth,
Fel teithydd lluddedig dan gysgod rhyw lwyn
Hir erys dan swyn y beroriaeth!
Ni wyr y pendefig yn nwndwr y plâs,
A'i loddest yn frâs trwy y flwyddyn,
Am wynfyd y gweithiwr mewn hwyl sy'n mwynhau
Mwynderau di-foethau ei fwthyn.
Ar derfyn y dydd y gweithiwr yn rhydd
A frysia i roesaw ei breswyl;
Ar aelwyd lawn hedd, a gwên ar bob gwedd,
Ynysoedd o nef rydd ei noswyl.