DAFYDD GRWYDRYN.
UN medrus iawn oedd Dafydd
I hel ei damaid beunydd:
Ni chrwydrodd neb o sir i sir
Yn siwrach gwir fesurydd.
A'i enw fe gysylltid
Y fwyaf Waen adwaenid;
Ond ef oedd Ddafydd fwyn Pob Man,
A'i wraidd o dan ei ryddid.
Fe dybiai rhai o'i weled
Nad oedd â hwynt cyn galled;
A thynnai pob rhyw ran o'u stór
Don newydd o'r diniwed.
Ni welwyd ef yn garpiog
Gan gwn na phobol frathog:
Fe hudai'r gôt a hoffai gael
O gist gwr hael yn gastiog.
Ei dafod oedd felfedaidd,
A'i foes yn foneddigaidd;
Ond taflai ddiolch ambell dro
A'i oerni'n o haearnaidd.
Ni cheisiai'r gwryn geiriog
Ond "dima bach ne' geiniog";
Ni chymrai geiniog ddoi mewn stŵr
O feddiant gwr anfoddog.
Gofynnai wedi derbyn,
Gan ddal y darn gyferbyn,
"Ydach chi'n siwr y medrwch droi
O'i adael, a rhoi wedyn?