Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A fuoch chi yn 'Stiniog?
Mae hwnnw 'mhell gynddeiriog;
Ewch yno os y daw byd gwan:
Mae'n gynnes fan am geiniog."

Mewn odyn glyd fe'i gwelais,
Am lety ar ei falais,
Ac ef a'r llanciau'n fawr eu dawn,
A difyr iawn eu dyfais.

Fe dynnodd y dilledyn
Oedd nesaf at ei gorphyn;
A chanddo, am resymau mân,
Fe'i rhowd ar dân yr odyn.

Fe wyddai Dafydd ddehau
P'le byddai, a'r effeithiau::
Fe wyddai na cha'i ado'r fan
Yn ddigrys dan ei ddagrau.


Mae yntau wedi myned,
Heb adael llawer called:
Hai lwc ei fynd o ffordd Pob Man
I lan lle bydd fodloned!