Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAE RHAN O'R LLOER O'R GOLWG.

Os ydyw'r nos yn dal yn ddu,
A dwfn bruddglwyfedd ar bob tu,
Mae ymyl fain o'r lleuad gu
I'w gwel'd, yn lled anamlwg;
Bydd amyneddgar, gyfaill syn,
Tywyllwch ar ei orsedd gryn,
Daw'r nos i wenu gyda hyn:
Mae rhan o'r lloer o'r golwg.

Os ydyw gŵg Rhagluniaeth fawr
Yn eistedd yn ei threm yn awr,
A thithau wedi'th lethu i lawr
Yn crynnu dan ei chilwg,
Na ddigalonna'n llwfryn gwael,—
Gwna di'th ddyledswydd yn ddi—ffael;
Sirioldeb eto a wisg ei hael:
Mae rhan o'r lloer o'r golwg.

Os ydyw'r byd yn aml ei sèn,
Yn lluchio'i ddirmyg ar dy ben,
Gan geisio'th ddal tu ol i'r llèn,
Dibrisia'i wawd a'i hwdwg;
Bydd ffrynd i lafur: os yw lli
Athrylith yn dy feddwl di,
Fe red ryw ddydd trwy ddolydd bri:
Mae rhan o'r lloer o'r golwg.

Os yn y dymhestl, Gristion gwan,
Yr wyt, mewn ofn na weli lan,
A chaddug nos o'th gylch bob man,
Heb ddim ond mellt yn amlwg,
Mae'r llyw yn llaw dy Dad,—cyn hir
Cei wel'd goleudy Gobaith clir,
A sangu'n iach ar nefol dir:
Mae rhan o'r lloer o'r golwg.