Prawfddarllenwyd y dudalen hon
BOED YN DY GOF.
(Tri phennill a roddwyd i'r anwyl J. D. Bryan.)
I.
TRA'N sangu gwlad ddyddorol
Y pyramidiau mawr,
Y wlad sy'n gwel'd y Nilus hen
Yn llifo byth i lawr,
Boed yn dy gof, fy nghyfaill,
Fod twym galonnau lu
Mewn gwlad hynafol arall draw
Yn curo o dy du.
II.
Er myn'd ymhell o Walia,
Y wlad lle cefaist fvw
I ddysgu rhodio'i hanwyl dir
Yn ofn ei hunig Dduw,
Boed yn dy gof fod sylw
Y Duw addolwn ni,
A'r Duw addolai Joseph gynt,
Pan yno, arnat ti.
III.
Os trefna doeth Ragluniaeth
It' ddo'd i'th wlad yn ol,
Bydd dda gan Walia'th dderbyn di
I'w thawel gynnes gôl;
Ond cofia beunydd yno,
Tu draw i'r llydan fôr,
Fod eto ffordd o Wlad yr Aifft
I Wlad Addewid Iôr.