Prawfddarllenwyd y dudalen hon
BETH YW EINIOES?
BETH yw einioes, eneth siriol?
"Maith wastadedd di—ben—draw,
Llawn o bob teleidion swynol
Yn daenedig ar bob llaw.
O! 'rwy'n gweled blodau tlysion
Yn fy aros, rif y sêr,
Minnau'n methu brysio digon
I fwynhau eu harogl pêr.
Beth yw einioes, gyfaill nychlyd,
Caethwas blin afiechyd du?"
Llong ar ganol môr terfysglyd,
Tonnau erchyll ar bob tu;
Yr herfeiddiol wynt yn chwythu
Fel dialedd oer a chwim,
Hithau'n llesg a gwan yn methu—
Methu symud nemor ddim."
Beth yw einioes, henwr gwywlyd,
Sydd a'th ben mor wyn a'r llaeth?
"Edrych ar y ffrwd a gyfyd
Yn y cwm gerllaw y traeth;
Weithiau'n llyfn, ac weithiau'n arw;
Weithiau'n brin, ac weithiau'n stôr;
Berr ei thaith o'r gilfach acw;
Cyll o'r golwg yn y môr."