Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CAREDIGRWYDD.
NID oes unpeth mwy effeithiol—
I galonnau'n fwy bendithiol;
Nid oes unpeth bair hapusrwydd
Ym mhob man fel caredigrwydd.
Gwêl y tlawd a'r gruddiau llwydion,
Gwêl y gaeaf yn ei galon:
Tawdd y rhew, daw llonder ebrwydd,
Dan belydrau caredigrwydd.
Gwêl y truan yn y trallod,
Gwên a geiriau wedi darfod:
Daw ystori o'r distawrwydd
Yn swn dagrau caredigrwydd.
Pan fo cyfaill wedi ffromi
Herwydd cam neu gael ei siomi,
Troi yn fwynder wna'r ffyrnigrwydd
Dan gyffyrddiad caredigrwydd.
Mawr yw ffydd, a mawr yw gobaith—
Gwerthfawr rasau'n myd yr anrhaith;
Ond y mwyaf ei raslonrwydd
O bob gras yw caredigrwydd.
Os dymuni fod o ddefnydd;
Os dymuni wel'd llawenydd;
Os dymuni fod yn ddedwydd,
Dyro le i garedigrwydd.