Prawfddarllenwyd y dudalen hon
PAID A'I GOELIO.
PAID a'i goelio, eneth nwyfus,
Er fod esmwyth eiriau mêl
Yn diferu dros ei wefus,—
Gwylia frad ei galon gêl.
Gwena tegwch dy forwyndod
Heddyw mewn boreol fri:
Gwylia rhag i'r twyllwr osod
Cwmwl ar dy burdeb di.
Gwelais un yn wylo'i chalon—
Calon fu yn llonni'r nef,
Gyda'i choron glaer yn deilchion
Wrth ei draed diystyr ef.
Bu, fel tithau, fel y manod—
Tlysni rhinwedd yn ei gwedd;
Ond mae ceinion ei morwyndod
Heddyw'n garnedd ar ei bedd
Dyro glusti hyn o eiriau:
Gochel di y siomllyd swyn
Sydd yn llanw addunedau
Teg a ffals dy demtiwr mwyn.
Geill dy glir foreol wynfyd
Droi yn dywell nos o wae,
Dan gymylau gwarth a thristyd:
Gochel ef, dy dwyllo mae.