Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CWYN A CHYSUR.
I.
GAEAF ydyw bywyd—
Gaeaf oer a blin,
Llym yw'r gwynt gwenwynllyd,
Gerwin ydyw'r hin;
Ond ni ddigalonnaf—
Canu ynddo wnaf:
Cilio raid i'r gaeaf,
Dyfod mae yr haf.
II.
Cefnfor ydyw bywyd—
Cefnfor garw, du;
Tonnau mawr dychrynllyd
Welaf ar bob tu;
Ond yng nghwch bach hyder
Canaf yn ddi—daw:
Myn'd yn llai mae'r pellder,—
Glaniaf maes o law.
III.
Canaf yn nhymhestlodd
Geirwon gaeaf du;
Canaf uwch dyfnderoedd
Tonnog fôr a'i ru;
Canaf tra y dalio
Hwyliau gwynion ffydd;
Canaf wedi glanio
Am dragwyddol ddydd.