YR HEN DORRWR CERRIG.
AR fin y ffordd a'i wallt yn wyn,
Crymedig iawn ei lun,
Hen dorrwr cerrig mwyn fel hyn
A ganai wrtho'i hun:
"Yn wan a gwael, dan bwys pob hin,
Fy lludded pwy a'i gwyr
Wrth guro, curo, curo
O'r bore hyd yr hwyr?
Niferoedd sydd o ddydd i ddydd
O'mlaen yn myn'd a d'od,
Rhai'n llon eu ffawd, rhai'n brudd a thlawd,
Rhai'n enwog, rhai'n ddi-nod.
Caf air gan rai, â heibio'r lleill
Mewn diystyrwch llwyr
O un sy'n curo, curo
O'r bore hyd yr hwyr.
Y garreg olaf oll i mi
A dorraf cyn bo hir:
Pob un sy'n tynnu gyda hi
O'm nerth, sydd brin yn wir.
Drwy'r cerrig hyn daw adsain syn
O'r byd tu draw i'r llen:
Wrth guro, curo, curo,
Fe ddaw fy oes i ben.
O dan fy morthwyl dryllio mae
Y cerrig c'letaf ryw;
Ond gwn am garreg lawn o wae
Sy'n dal dan forthwyl Duw.
A dyfal ordd y dwyfol air
Parhâ, O Ysbryd cu,
I guro, curo, curo
Nes dryllio'm calon ddu."