MAGGIE'R TRAEAN.
'ROEDD y flwyddyn oedrannus ar drengu'r pryd hyn―
'Roedd ei cham yn fyrr, 'roedd ei gwallt yn wyn,
Tra'r eneth dyneraf a gwanwyn oes
Yn welw'n ei threm, yn wyw yn ei grudd;
A disgyn 'roedd dagrau ar amnaid pob loes,
Ac angylion oedd gylch ei gorweddfa brudd.
Ni welwyd ond tlysni yn Maggie cyn hyn;
Ond dyna brydferthwch a welodd y glyn!
'Roedd yn Sabboth—ni chlywid na thwrf na bloedd,
A gorphwysfa olaf y flwyddyn oedd;
Nefolaidd awelon gusanent y dydd;"
Nefolaidd a dwfn ydoedd murmur y dòn;
A nefol addfwynder ymdonnai'n ei grudd,
A nefol oedd iaith y forwynig hon.
A dyna'r dydd daeth angylion i lawr
I'w thywys i ddinas y Sabboth mawr.
'Roedd yn hanner dydd—a rhyw ddydd byrr iawn
I'w rannu oedd ef rhwng bore a nawn.
Tra'r clwyfus haul ar ogwyddo i lawr
Yn llesg tua mynwes y cyfnos prudd,
'Roedd Maggie yn esgyn i ddwyfol wawr
Pur wlad y tragwyddol a chlir Hanner Dydd.
O, ddedwydd y croesaw i'r fun a roed
I wenau y nef yng ngwanwyn ei hoed!