Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y TRI HYN."

I.
LLAW ydyw Ffydd, i'w rhoi yn llaw
Arweinydd nas gall fethu byth,—
I agor llenni'r pellder draw,
A thynnu cysur pur, di—lyth,—
I ddwyn o rym Hollallu byw
I symud llawer mynydd mawr,—
I afael yn y cadarn Dduw
Nes mynnu'r fendith gyda'r wawr.

II.
Beth ydyw Gobaith? Angor cryf
Wrth long helbulus bywyd dyn,
I'w dal, gan herio'r storom hyf
A gyffry'r môr i wallgof wŷn:
Er hyrddio'r llestr yma a thraw
Gan rymus donnau'r brochus aig,
Mae'r angor yn y dwfn islaw
Yn gafael mewn tragwyddol graig.

III.
Fendigaid Gariad! Haul yw hwn,
I roddi gwên ar rudd y gwael,—
I dwymno teimlad cread crwn,
A pheri twf—ddeffroad hael.
Ei reddf yw rhoddi—rhoddi'n rhwydd
O'i stor i lawr, dosturiol un:
Mae'n rhoddi lles, mae'n rhoddi llwydd,
A'i fawredd ef yw rhoddi ei hun.