MADOG AB OWAIN GWYNEDD.
MADOG AB OWAIN oedd un o'r llu
Lathrant hen gofrestr Cymru Fu—
Dyn a theimlad yng nghraidd ei fron,
O ysbryd anturus ar dir a thòn.
Disgynnodd penwynni ei dad i'r bedd;
Cododd ymryson gwrdd am ei sedd;
Cledd fu'n gwibio rhwng cnawd o'r un cnawd;
Brawd fu'n dranc i fywyd ei frawd;
Rhyfel cartrefol 'sgyrnygai'n hyll
Ychydig ymlaen, rhwng gwawr a gwyll.
Madog arswydai rhag meddwl am
Glwyfo rhai garodd ei dad a'i fam,
A rhuddo gwerdd fynwes gwlad y sant
A hylif bywyd yr un o'i phlant.
Mewn llynges fechan hwyliodd ei rawd
I chwilio am randir hedd a ffawd.
Dawnsiodd y llongig oedd dan ei droed
Ar donnau na welsant long erioed.
Cyn hir ca'dd orphwys i fwrw'r draul
Gerllaw y gorwel lle cysg yr haul—
Mewn gwlad eangferth, ffrwythlawn, well
Na Gwalia fynyddig fach oedd bell—
Oedd bell, ac eto bob dydd dan drem
Ei galon gynnes fel nefol em.
Gan awel bell ac estronol dòn
Danfonwyd e'n ol i Frydain lon.
Mewn deg o longau dyrchafwyd cân
Gan lu o wrolion Cymru lân,
Am ddilyn Madog yn ol.—A'r gwynt
Ni ddaeth a gair am ei olaf hynt.