Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARWNAD Y FLWYDDYN.

MAE'R flwyddyn lesg, oedrannus yn trengu—dyna ding
Yr awrlais draw yn seinio ei hiaith o'i holaf ing.
Nid oedd ond pob arwyddion o hyn er's llawer dydd:
'Roedd dulas rew marwolaeth yn gwelwi ei rhychog rudd,
A "blodau'r bedd" yn wynion gudynau gylch ei phen,
Yn sôn ei bod ar riniog y byd tudraw i'r llèn."
Prudd seinia gwynt canolnos alargan iddi hi,
Tra'n siglo crud un arall—ein Blwyddyn Newydd ni.

Mae'r flwyddyn wedi marw!—Hen flwyddyn dyner fu:
Tiriondeb ei theyrnasiad a ddengys llwyddiant llu.
Eisteddodd bedwar cyfnod ar sedd Trugaredd wen,
A choron o ddaioni fu beunydd ar ei phen;
Allforiwyd trugareddau—bendithion yn ddi-ri'—
O deyrnas fawr Rhagluniaeth i'w theyrnas fechan hi;
Cyfrannodd hithau'r cyfan yn gyfiawn ac yn ddoeth;—
Bu farw'i hunan, druan, yn hen, yn dlawd, a noeth.

Mae'r flwyddyn wedi marw.—Hen flwyddyn enwog oedd:
O awr i awr ei hanes ymledai'n fwy ar g'oedd.
Bob dydd o'i hoes bu miloedd o ddwylaw wrth y gwaith.
O chwim gysodi ei henw trwy gyrrau'r ddaear faith.
Wrth allor wen priodas—ar lèn yr uniad ir—
Cofnododd myrdd ei henw,—ac ar hen goflyfr hir
Dydd geni plant gofidiau, ac etifeddion parch;
Do, do, fe'i cerfiwyd hefyd ar lawer cauad arch.

Mae'r flwyddyn wedi marw.—Ei genedigol ddydd
Wnaeth lawer un yn llawen, a llawer un yn brudd.
Ceid wyneb y cystuddiol a'r hen yn ymdrist—hau
Wrth glywed Mawrth yn rhuo, ac angau yn nesau.
'Roedd llawer impyn ieuanc yn llonnach nag erioed
Wrth wel'd ei hun yn nesu at wynfa ugain oed.
Mae'r flwyddyn wedi cilio—ond nid cyn teimlo'i throed
Ar newydd feddau llawer na welsant "ugain oed."