Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r flwyddyn wedi marw; ac yn ei hangau hi
Bu farw llawer bwriad fu anwyl gennyf fi.
Rhwng emrynt y dyfodol 'roedd aml i seren lon
Yn tremio'n hawddgar arnaf y bore ganed hon.
'Rwy'n syllu i'r gorphennol wrth gofio'r flwyddyn gu—
Mae'r ser disgleiriaf welais tuhwnt i'r mynydd du!
Addunais addunedau i'r Hwn a'i galwodd draw—
Mae'r rheiny'n waeth na gweigion yn myned yn ei llaw!

Mae'r flwyddyn wedi marw: fe'i llyncwyd gan y bedd
Sy'n mynwent Tragwyddoldeb, ag amser iddo'n wledd.
Ond cyfyd unwaith eto pan ddeffry "llwch y llawr":
Anadla hithau fywyd o swn yr udgorn mawr;
Dadlenna'i holl gyfrifon; a phan archwilir hwy
Ymdodda i Dragwyddoldeb"—ac ni bydd amser mwy."
O, Ynad llys y llysoedd, â gwaed dilëa Di
Gofnodion aml fy meiau o'i dyddlyfr manwl hi!


CLYCHAU NADOLIG.
(Efelychiad).

CANU, peraidd ganu o sanctaidd dyrrau cain!—
Ariannaidd seiniau'n dyrchu o glychau pur eu sain;—
Canu bri yr anwyl Nadolig cynta' 'rioed:
Canu byth am hwnnw trwy barthau daear boed!

Seiniwch, peraidd seiniwch trwy'r oriau, glychau glan!
Seiniwch gof i'n henaid o gord y nefol gân!

Seiniwch heddyw'r hanes gan yr angylion gaed;
Seiniwch glod y Maban yn Frenin byth a wnaed;
Chwyddwch allan, chwyddwch berorol fawl yr awr;
Traethwch wrth y ddaear pa fodd daeth Duw i lawr.

Seiniwch, uchel seiniwch y newydd haedda fri—
Tangnefedd ar y ddaear drwy Iesu'n Brenin ni.