Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GAN O HEDD.
(Efelychiad).

MEWN cân angylion sanctaidd Duw
Roesawent Iesu Grist:
I lawr trwy euraidd byrth y nef
Hwy ddoent, heb un yn drist;
Hwy ganent gân sy'n fyw o hyd—
I filoedd sydd yn wledd,
Cân ddaeth i lawr o gariad Duw—
Pur gân o hedd.

Drwy'r gân angylion sanctaidd Ior
Gyhoeddent ddwyn i'r byd
Yr Hwn a una ddae'r a nef
Yng nghariad Duw ynghyd.
Eu carol hwy yn felys sydd,
Un nodyn prudd ni fedd,—
Cân ddaeth i lawr o'r nefoedd lon—
Y gân o hedd.

Na fydded neb heb ddysgu'r gân
Trwy gyrrau tir na lli;
Na fydded neb heb roddi clod
I'r Hwn a'i tynnodd hi.
Rhyw gân a ddeffry londer yw
Mewn enaid gwael ei wedd.—
Cân ddaeth i lawr o gariad Duw—
Y gân o hedd.