Wrth wely ei chwaer dywedai'n brudd,
"Ednyfed Yr Heron' yn farw sydd!
Eu gwaetha' gyflawnodd y gwynt a'r dòn:
Nis gwelwn ef mwy ar y ddaear hon.
Ychydig a deimla dy galon di:
Ni charai ef fel y'i carai f'un i.
Pe'r llanc yn fyw, er ei fwyn gall'swn i
Hemio dy wisg briodasol di—
Er i ddwylo grynnu a dagrau ffoi,
A phwyth am bwyth yn fy mron gael ei roi.
Ond yn awr, er gwaethaf y gwynt a'r lli,
Fy enaid â'i enaid briodaf i—
Y byw i Gwladus, a'r marw i mi."
DIFYR SON AM GYFAILL GYNT.
'Rwy'n awr am ddarlunio hen gyfaill i'w gofio,
Yn raenus a chryno, a'i gydio wrth gân:
Mi rof i chwi hanes y gwr yn ddi—rodres,
Fel pe b'ai fy hanes fy hunan.
Mae pawb yn ei 'nabod, a'r broydd yn gwybod
Fod ganddo fo dafod pur hynod o'r hael,
Yn troi mewn ufudd—dod i'w ben a'i gydwybod
A gwarchod rhag dyfod i'w afael!
Os bydd eisio canmol rhyw dro go ragorol,
Mae e'n wr mor ddoniol a Hall, medda nhw;
Ond pan fydd y gafod yn disgyn o'r Hafod
Ar bechod go hynod, gwae hwnnw!