Am ateb cwestiynau, a rhoi opiniynau,
'Does undyn mwy dehau rhwng bannau y byd.
Gofynnwch y cwbwl, mae'n barod ei feddwl:
Cewch ateb mwyn, manwl, mewn munyd.
Mae o'n medru dadlu mor rwydd ag anadlu,
Heb ofni ymddrysu na baglu wrth bwnc; .
Drwy reswm neu daeru mae'n siwr o orchfygu:
'Does neb all ei rempu ar unpwnc.
Ceir doniau'r diwinydd, y beirniad, a'r llenydd,
I gyd hefo'i gilydd yn newydd eu nôd,
Yn tyfu'n ddi—ddiwedd, a'u gwraidd mewn arabedd,
Yng nghoryn gwr rhyfedd Yr Hafod.
CAN YR EISTEDDFOD.
(Alaw—"Rhyfelgyrch Cadben Morgan.")
LLWYDD i'r Eisteddfod, prifwyl Gwlad y Gân!—
Llwydd byth i ennyn gwladgar dân!
Grym ei hysbrydiaeth dyn y wlad ynghyd;
Calon wrth galon a ddeil o hyd;
Gwreng a bonedd, plaid a phlaid yn llon,
Gwrddant law yn llaw ar hen fanllor hon.
Ysbryd Rhyddid süa rhwng ein creig,
"Cedwch mewn mawrhad yr hen Wyl Gymreig."
Hen Wyl y Brython geidw fyth yn gu
Fraint a defodau Cymru Fu;
Ar ei hwynebpryd gwelwn wrid a gwên
Awen Taliesin a Llywarch Hên;
Cêl ysbrydion gwŷr o ddawn a chlod
Dyrrant gylch ei baner o rôd i rôd;
Llais yr oesau waedda yn ein clyw,
"Cedwch Wyl eich gwlad tra bo Cymro'n fyw."