Prawfddarllenwyd y dudalen hon
I'r hen Eisteddfod parch o galon boed:
Mamaeth awenau yw erioed.
Nawdd Duw a'i dangnef iddi oesau'r byd!
Maged enwogion fwy o hyd!
Blant y Bryniau, rhowch o galon rwydd
Gymorth i ddyrchafu ei bri a'i llwydd;
Grwth a thelyn, dowch yn ddi nacâd,
Seiniwch chwithau glod i hen Wyl ein Gwlad.