Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWERDDON Y FFRIDD.

DIM ond ychydig wern,
A ffrwd wasgaredig, fas
Yn llifo rhwng tryblith o lysiau'r dŵr,
Gyda'u blodau bach gwyn a glâs,
Ac aderyn bach dedwydd yn canu'n llon
O gangen i gangen am haul ar dòn,
Heb gof am ofid na châs.

Tlawd yw y ffridd a syn,
A distaw'r ddi-annedd fro,
Heb ddim ond trwst y gerbydres fach
Yn ei deffro ryw ambell dro;
Ond llon ydyw llannerch y byw di-stŵr
A wnaeth y tlws fwrlwm o loyw ddŵr,
A glân yw y twf a'r gro.

Gethlydd y werddon fach,
Eiddigus o honot wyf,
Yn byw yn dy dawel baradwys bell,
A'th awen yn rhydd ei nwyf.
Ai nid oes i minnau ryw lannerch fel hon,
Odlysni parhaus a dedwyddwch llon,
Heb gof am ofidus glwyf?