FFARWEL Y MORWR.
(Y miwsig gan Pencerdd Gwynedd, Mus. Bac.)
FFARWEL i dir fy Ngwalia glir,
A phawb o'm hen gyfeillion gwir—
Y tonnau'n galw sydd.
Os na chaf fwyniant, rhwysg, a bri,
Mae awel Rhyddid ar y lli,
A swn y môr yn swyn i mi:
'Rwy'n byw i fod yn rhydd.
Er ymhell o'm gwlad,
A mannau hoff fu'n rhoi mwynhad,
Lle byddai hwyl a lliw boddhad
Yn wenau ar fy ngrudd,
Caf ledu hwyl, caf wlad o hyd
I lanw 'mron, i lonni 'mryd,
A hwyl di—ball wrth wel'd y byd—
Pa raid yw bod yn brudd?
Af, af yn llon, yng nghwmni'r don,
Gan ddeffro tannau ysgafn fron,
Wrth hwylio nos a dydd.
Mae glannau'r byd yn adsain llef
Hen udgorn mawr Trafnidiaeth gref,—
Mae Ysbryd pedwar gwynt y nef
Yn arwain Masnach Rydd!
O, fy anwyl fun,
Gwna Hiraeth draw â'i law dy lun
Yngolau haul ac engyl hûn,
Nes deffro'r deigryn byw;
Ond ofer gwrando'r galon wan
Tra clywaf lais o lan i lan
Yn galw arnaf wneud fy rhan—
A llais Cymdeithas yw.