Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LIZZIE WYN.

"HA, Feirionydd, wele fun
A ddwg anrhydedd iti:
Anwyl yw, a theg ei llun,"
Medd clychau Aberdyfi.
"Enw hon yw Lizzie Wyn:
Gwynnach yw nag ôd ar fryn;
A mynnu dysg a'i rhoddi fynn,"
Ebe clychau Aberdyfi.

"Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Mynnu dysg a'i rhoddi fynn,"
Ebe clychau Aberdyfi.

Os yw fel y d'wedwch chwi,
Mae llawer yn ei hoffi,
A llawer llanc a'i chwennych hi,
O! glychau Aberdyfi.
Pwy gaiff galon Lizzie Wyn?
Pryd y rhoir y cwlwm tynn?
Pa'm yr holwch chwi fel hyn?"
Ebe clychau Aberdyfi.

"Un, dau, tri, waeth i chwi pryd;
Pa'm yr holwch chwi fel hyn?"
Ebe clychau Aberdyfi.