Prawfddarllenwyd y dudalen hon
LLYN Y GADAIR.
I GAEL y meddwl caeth yn rhydd,
A'r galon brudd i gywair,
Effeithiol iawn yw diwrnod gwyn.
Ar hyfryd Lyn y Gadair.
Nid yw ei faint, nid yw ei liw,
Yn cymell i'w ymylon;
Ond nid oes lonnach llyn i'w gael,
Na'r un mwy hael ei galon.
I'w lonni, ar Y Gadair fawr
Y fore wawr orphwysa;
A gwel'd ei hunan yn ei ddrych
Bob dydd ga'r uchel Wyddfa.
Ei fyrdd melynfrych bysg o'i fewn
Yn hoenus ewn chwareuant,
Ac weithiau i'r pysgotwr tlawd
Eu nwyfus wawd ddangosant.
Cael awel rydd ar ddiwrnod llon
I ddeffro'i donnau lawer,
Cael llithro dros ei fynwes fwyn
Heb gofio cwyn na phryder;
Cael cwmni cyfaill cerddgar fryd,
A medrus gyda'i enwair—
Mor ddifyr, ddifyr ydyw hyn
Ar hyfryd Lyn y Gadair!