Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHODRI A NEST.
(Hanes bach gwir).

SEML oedd y wledd, a syml oedd y cwmni,
Dieithr i'w gilydd bron bawb wrth y bwrdd;
Ieuanc oedd Nêst, a ieuanc oedd Rhodri,
A dyna'r tro cyntaf i'w llygaid hwy gwrdd.
Mawr a gwineulas, a mwyn fel Mehefin,
Oedd llygaid y riain, a theg oedd ei phryd;
Rhodri edrychai fel dyn anghynefin
A'r ffrynd wrth ei ochr a siaradai o hyd.

Rhodri, fel pawb, a godai ei olwg
Weithiau o'r ford a'r arlwyaeth i'r gwêst;
Pa'm 'roedd o hyd (ddaeth hyn byth yn amlwg)
Lygaid y llanc yn cyfarfod rhai Nest?
Pa'm yr oedd hithau yn sydyn frawychu,
A'i llygaid yn troelli, a'i gwrid mor ddi-rôl?
A pha'm yr oedd Rhodri yn bygwth pesychu,
Ac ar y danteithion cyn lleied o'i ol?

Edrych a wnai yn fynych, heb geisio,
Draw ar led osgo, fel tremiwr di-nôd;
Wyddai ef ddim, er breuddwydiol ddyfeisio,
Pa'm y ffordd honno, na beth oedd yn bod.
Clywai hanesion ei gyfaill diddanus
Fel swn yn y pellder, rho'i ambell "aiê?"
Sylwodd y ffrynd ei fod braidd yn ffwdanus
Pan godwyd o'r diwedd i adael y lle.

Rhyfedd yw Ffawd!-cyn hir cafodd Rhodri
Barchus gyflwyniad i Nêst yn ei bro.
Teimlodd yn syn, ond gwnaeth y gwrhydri
Mawr o awgrymu cyd-fyned am dro.
Cloff oedd y geiriau, ond deuent yn rhwyddach
Fel y cyd-rodiai y ddau fin y ddôl.
Dechreu oedd hyn; fe ddaeth amser dedwyddach,
A chofio dyddorus wrth edrych yn ol.