ELSIE'R GLYN.
GLAS yw ei llygaid, llon yw ei phryd,
Tlws yw ei chwerthin a'i llais a'i llun.
Gwelwch y lawnt-mae'r adar i gyd
A'r blodau yn syllu ar dlysni'r fun.
Troi pawb a phobpeth i sylwi'n syn
Wna dull a chwerthiniad Elsie'r Glyn.
Tlws yw'r gwyn rhwng ei dwy wefus dlos,
Tlws yw'r pelydr o'i llygad a dardd;
Ei gwrid sydd gymysg liw mafon a rhôs,
A thlws y ddau bantle yn hwn pan chwardd,
Nid oes dlysach gwrid na glanach gwyn
Nag sydd yn chwerthiniad Elsie'r Glyn.
Gwyr am gyfoeth ac ysgol a bri,
Gwyr am edmygedd mawrion y tir,
Eto naturiol o hyd yw hi,
Gwylaidd a syml fel helygen ir.
Gwyr rhai hiraethant am haul ar fryn
Mor dyner ei gwên yw Elsie'r Glyn.
Ei thad a'i mham yn ei charu sydd
A chariad dyfnach na'r dyfnaf li;
Câr hithau'n ol (Pwy arall ryw ddydd
A gaiff ei chariad a'i chalon hi?)
Ddywedwn i byth, waeth tewi ar hyn,
Mor dlos ac mor anwyl yw Elsie'r Glyn.