YR HAFAIDD NOS.
O! FALMAIDD hafaidd hwyr,
Distawodd byd yn llwyr
I wrando'th süon di.
Y grwydrol chwâ lesgâ i gwsg
Dan swyn aroglau rhôs a mwsg,
A huno bron mae swn y lli.
Swil adar cudd y gwair a'r ŷd,
Eu seiniau hwy sydd swyn a hud
O dan dy esmwyth aden di.
Na thorred sain, O dyner nos,
Ar ysgafn hûn Aurora dlos:
Rhy fyrr, rhy fyrr ei chyntun hi!
O! dawel nos o haf,
Dy falm lonyddo'r claf,
Dy süon leddfo'i loes.
Na wyped cwsg y gweithiwr blin—
Y cwsg a ŵyr dy rywiog rin—
A:r fore dydd mor ferr dy oes!
DYGWYL DEWI.
Ni ganwn heddyw'n gynnes
Ddi-rith wladgarol gerdd,
A gwisgwn ar ein mynwes
Yr hen geninen werdd.
Gwlad awen, ddydd Gwyl Dewi,
A gaiff ein serch i gyd,
A thân a draidd ein gwythi
Drwy bedwar cwrr y byd.
O, Walia, er pob gelyn
Dy bleidio wna dy blant,
A dal dy glod ar delyn
Ar ddydd Gwyl Dewi sant.