Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pleser yw'r trin a'r manylu,—
Mwynhad yw'r llafur i gyd;
Yma 'does dim yn cymylu
Ffurfafen fy encil clyd.
Sibrwd o'm cylch mae addewid
Am degwch a llonder Haf;
Melysach na hyn yw'r newid,
A'r gwenau o'r pridd a gaf.

Hawdd ydyw credu ystori
Y bell baradwysaidd ardd:
Beth oedd yn well i ddyddori
Y newydd greadur hardd?
Diolch fod gardd ar y ddaear
O hyd, er y chwyn di—ri';
A diolch am ddyddiau claear
I hudo'i hyfrydwch hi!


YSTORMUS WYNT.

PA'M mae'r gwynt
Ar yr hynt
Erwin hon mor hwyr y nos?
Pa ryw bethau croes neu hyfion
A gyffrödd ei nwydau cryfion?
Ai rhyw siom
A'i gwnaeth yn ffrom
Wrth ei dd'od dros fryn neu ros?

Udo mae,
Fel mewn gwae
Neu ddialedd seithug, sur;
Weithiau rhuthro, weithiau rhüo,
A'i ddigofaint blwng yn düo;
Wedi hyn
Cwyno'n syn,
Fel rhyw gawr yn teimlo'i gur.