Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Süa'n brudd
Ofid cudd
Wrth fy ffenestr ambell dro,-
Süon rhyfedd yn ymdonni
O ryw deimlad wedi cronni,-
Fel rhyw gri
Ataf fi
Wyr am holl gilfachau'r fro.
Pa'm yr hwrdd,
Pa'm y twrdd
Uwch fy simddai ofnus i?
Pa'm yr achwyn, pa'm y cilio
Fel dialedd dreng yn chwilio?
Pa'm y troi,
A'r cyffroi?
Pa'm y cymysg wawch a chri?
Hoffwn ddwyn
At ei gwyn
Gydymdeimlad calon drom;
Ond mae ef mor fawr a nerthol,
Grym ei nwydau mor ryferthol,
Beth yw llais
Dyn a'i gais
Yn y fath derfysgoedd ffrom?
Nwyd a phoen,
Gorphwyll hoen,
Pwy a wyr eich hanes chwi?
Hawdd yw gweled, hawdd yw clywed;
Nod neu achos, pwy a'i dywed?
Er pob dawn,
"Bychan iawn
Yw y peth a wyddom ni."