Hir fu'r galw, dwys fu'r erfyn,—
Galw ac erfyn eto sydd;
Os na roi'r cyn hir wrandawiad,
Pwy all dd'wedyd beth a fydd?
Uwch ac uwch y cwyd y lleisiau,
A'r bygythion o bob rhyw:
Doeth yw rhoddi i bob gweithiwr
Gyflog byw!
CAN GWRAIG Y CREIGIWR.
DEDWYDD, dedwydd yw fy mhlentyn
Yn ei ddwfn brydnawnol gyntun.
Gwelai lygad mam wrth huno,
Ond ni welai'r cwmwl ynddo;
Ac ni chlywai ar ei dwyfron
Swn yr ofnau a'r pryderon.
Tawel, tawel yw yr hafddydd,
Pobpeth sydd yn hyfryd lonydd;
Ysgafn cerdd y chwäon tyner,
Fel yn ofni deffro pryder:
Bychan wyddant am y cynnwr'
Sydd yng nghalon gwraig y creigiwr.
Chwi, awelon sydd yn hedeg
Heibio'm bwthyn yn eich adeg,
Peidiwch cludo swn ergydion,
Peidiwch sibrwd am beryglon:
Ni raid i chwi chwyddo'r dwndwr
Sydd yng nghalon gwraig y creigiwr.
Pa'm mae dynion adre'n dyfod
Cyn yr awr ar derfyn diwrnod?
Pa'm mae'r merched yn y drysau?
Beth yw'r holi ar y conglau?
Gallai nad oes fraw yn teithio—
Gwell nag ofni yw gobeithio.