Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa'm y rhaid i mi ddyfalu
Pan y clywaf graig yn chwalu?
Pa'm y gwelaf mewn breuddwydion
Elor ar ysgwyddau llwydion?
Nid wy'n gofyn moeth na seigiau—
Dim ond nawdd i wŷr y creigiau.


YR HEN FRON'RERW.

BYCHAN oedd Yr Hen Fron'rerw―
Eiddil, crwm;
Cludodd trwy ei fywyd chwerw
Faich oedd drwm.
Dyna'i enw ar ei dyddyn,
"Cramen sâl":"
Ni fu'r perchen ddiwedd blwyddyn
Heb ei dâl.

Codai'n fore, gweithiai'n galed
Hyd yr hwyr;
Ni cha'dd llawer fwyd cyn saled,
Nef a'i gwyr.
Am y rhent a'r mân ofynion
Cofiai fyth;
Ofnai wel'd cyn hir "rhyw ddynion
Wrth ei nyth.

Ef, o bawb a welai hüan
Mawr y nef,
Oedd y dinod waelaf druan
Ganddo ef.
Anair i'w anifail roddai
Yn y ffair:
Pob canmoliaeth a ddiffoddai
Gyda'i air.