Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ar ei gorph 'roedd ôl y teithio
Hyd y tir;
Ar ei ddwylo ôl y gweithio,
Oedd, yn glir.
Iddo beth fuasai fyned
Môn i Went,
Os y gallai ef, oedd hyned,
Hel y rhent?
Myn'd i'r capel, er y blinder,
Fynnai ef;
Ac ni chlywid swn gerwinder
Yn ei lef.
Hen bererin hoff Bron'rerw!
Mae'n beth syn,
Prin mae'n cofio am y berw
Erbyn hyn.
BWLCH DERWIN.
ER na fedd brydferthwch daear,
Er na fedd enwogrwydd llachar,
Mae rhyw swyn a ddeil yn ddibrin
Wedi aros ym Mwlch Derwin.
Mynych yno hêd fy nghalon.
Ar adenydd chwim adgofion,
Ac mewn ambell hen gynefin
Oeda oriau ym Mwlch Derwin.
Ofer chwilio am wynebau
Rhai a welais hyd ei lwybrau;
Ond parhau mae symledd gwerin
Iach a durol ym Mwlch Derwin.