Hawdd yw cofio hen dywysog
Cors y Wlad, a'i wyneb rhychog.
Blwch y nard na'r geiriau gerwin
Amlach dorrai ym Mwlch Derwin.
Gwelwyd yma wledda lawer
Ar ddanteithion o'r uchelder;
Cafodd llawer gwael bererin
Iachawdwriaeth ym Mwlch Derwin.
Y mae llu o'r rhai fu ynddo
Gyda'r byd yn caled frwydro
Wedi myn'd i wlad ddi-lychwin,
Uwch ei dwrw o Fwlch Derwin.
PETHAU PRYDFERTH.
(Cyfieithiad.)
PRYDFERTH wynebau yw'r rhai fedd lun
(Ai tywyll ai goleu, ni waeth pa un)
Trwyadl onestrwydd na wâd ei hun.
Prydferth lygaid—sydd yn ennyn dawr—
Yw'r rheiny sy'n dangos eirias wawr
Prydferth feddyliau losgant i lawr.
Prydferth wefusau yw'r rhai y sydd
A'u geiriau o'r galon yn treiglo 'n rhydd,
Eto dan reol doethineb gudd.
Prydferth ddwylaw yw y rhai yn glir
Wnant waith digellwair, gwrol, a gwir
O awr i awr trwy'r goleuddydd hir.
Prydferth draed yw y rhai a dyn
Cariad i weini ar druain syn—
Hyd yr isaf ffyrdd, os Duw a'i mŷn.