Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Su hwi lwli, hwian, babi—
Cwsg, anwylyn cu;
Cwsg dan wenu, boddia hynny
Galon tada fry.
Edrych, edrych wnai yn fynych
Yma ar dy bryd:
Cofio am danat, syllu arnat,
Wna o'r dedwydd fyd.

Su, fy maban, su hwi hwian,
Huna mewn mwynhad;
Cwsg yn dawel, cofia'th angel
Air dy ddwyfol Dad.
Tad sy'n aros, Tad sy'n agos—
Nês na chynt—yw Ef;
Tad ofala, Tad a'n llywia
Ninnau tua'r nef.


WRTH FEDD MAIR ELUNED.

A GAF fi eistedd yma, Mair,
Yn swn y gweu sy yn y gwair—
A'r môr, sy fwyn am dipyn bach?
'Rwy'n hoffi'r cartre bychan clyd
Lle daethost di o swn y byd;
'Rwy'n hoffi cofio'th lais a'th bryd,
A chofio'th fod yn awr yn iach.

Mae'r haf eleni yn y coed
A'r maes, mor ddifyr ag erioed,
Yn rhoddi lliw a naws y nef;
Fe'th welwyd dithau yma'n rhoi
Cyffelyb rin, gan fwyn ymdroi,
A phob prydferthwch yn dy doi:
Yr haf, yr haf, fe ddychwel ef!