Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pererin wyf ag emrynt llaith,
A fu yng Nghriccieth lawer gwaith
Mewn awydd gwel'd yr oriau'n hwy.
Pan dyfet di yn degwch bro
'Roedd yma lawer nwyf ar dro,
Yn ddefnydd mwyniant serch a cho',
Ond nid yr un yw'r ardal mwy.

Fe glywem, Mair, am beraidd sawr
Dy fywyd tlws yn Llundain fawr,
A'r gwerth oedd arnat yn y lle;
A rhyfedd siom a loes i ni
Roes awr dy ymadawiad di,
Er gwybod mai i amgen bri
Y'th alwyd fry i'r nefol dre.

A wyt ti'n gwel'd pa fodd yn awr
Y cerdd helyntion daear lawr?
Weli di gynnydd bri dy dad?
Mae'n cael mwy-fwy o wenau clod,
Mae'n cael ei ffordd at bob rhyw nod;
Ond gwn am rywbeth, nas gall fod,
Y rho'i am dano bob mawrhad!

Fe garai ef i'w eneth gu
Ei wel'd mor llawen ag y bu,
A pheidio gwel'd ei rudd yn wleb.
Mae'n gwylio Prydain Fawr yn cael
A rhoi (i hon ni fynnai ffael!);
Mae'n cofio'r hen, a'r tlawd, a'r gwael:
Mae'n cofio Mair yn anad neb.

Mae'th fam ar waith, ar waith o hyd,
Ymhell o gyraedd gwagedd byd,
A'i symledd fyth heb arwydd pall.
Fe soniai'n fynych wrth dy dad
Am danat ti, a cha'i ryddhad;
Ond gwêl mai gwell i fyrdd y wlad
Yw iddi son am hwn a'r llall.