Er siarad wrthyt yma'n syn,
Mi wn dy fod mewn cwmni gwyn,
Heb ynddo neb mwy pêr ei sain.
Os oes rhwng canu daflu gair
I rai fu yma yn y pair,
Rho'm serch i Geraint, ac i'w Fair,
Ac i dy ddedwydd daid a nain.
NANT Y GARTH.
MAE Nant y Garth yn para'r un,
A'i rhodio lawer pryd
Y gwelir eto lanc a bûn,
Ond nid yr un yw'r byd.
Mae'r sycamorwydd heirdd a'r pin
A'r deri'n fwyn eu gwedd,
A'r llawryf glas oddeutu min
Y ffordd yn delwi hedd.
Gwna Mai o hyd y ddraenen wèn
Yn dlos a phêr ei sawr;
A chanu, canu, er dan lèn,
Mae'r ffrwd wrth lifo i lawr.
O Wanwyn ir i Hydref syn
Mor brydferth yw y coed!
A phan â'r Gaeaf trwy y glyn,
Mor ysgafn yw ei droed!
Hyfrytach man o dan y ne'
Nid oes na Nant y Garth.
Paham mae'm llygaid yn y lle
Yn tynnu dirgel darth?