Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WYT TI'N COFIO?

WYT ti'n cofio'r mynd i rodio
Dros yr aber nawn o haf,
Tithau'n meddwl, wrth fy ngweled
"Braidd yn ddistaw," 'mod i'n glaf?

Wyt ti'n cofio'r sigl aderyn
Yn ein dwrdio'n dlws o ffraeth?
Wyt ti'n cofio'r môr yn gwrando
Swn yr ymgom ar y traeth?

Wyt ti'n cofio'r diddig donnau'n
Chwarae hefo'r cerrig mân?
Wyt ti'n cofio'r gwr ddaeth heibio,
Wnaeth ein gruddiau fel y tân?

Wyt ti'n cofio Afon Gonwy'n
Gwawdus chwerthin am fy mhen,
Pan y gwnaeth rhyw ffol amheuaeth
I mi'th gyffwrdd gyda sèn?

Soraist ti, a sorais innau;
Wyt ti'n cofio am ba hyd?
Gwelais di a bore drannoeth—
Fel y bore'r oedd dy bryd.

Wyt ti'n cofio—ond waeth tewi,
'Rwyt ti'n cofio pobpeth fu
Ond y pethau pell na welaist
Yn fy nghalon, Gwenfron gu.