Prawfddarllenwyd y dudalen hon
O FEWN Y CYLCH.
(In Memoriam).
W. H.
URDDASOL ddyn,
A'i eiriau'n gynnil ac yn ddoeth,
A'i drem a'i wên a'i ddull yn goeth,
Fel ef ei hun.
Oedd gyfaill rhydd,
Agorai lawer 'stafell hardd,
Ond safai weithiau i'n gwahardd
I'r gafell gudd.
Yr olaf dro
'Roedd mwy o'i galon yn ei law,
A daeth rhyw gynnes air o'i daw
Nad aiff o'm co'
J. H.
BONEDDWR llon,
Mor rydd ei ffordd, mor rydd ei iaith,
Nes peri ini ambell waith
Ryfygu bron.
Mewn ymgom, pwy
A wnai ddiddanwch gwell ei sawr?
Neu daflai air i dyrfa fawr
O effaith hwy?
Ei dyner wres
A'm tynnai ato'n agos iawn;
Ac os cyfarfod eto gawn,
Mi af yn nes.