Prawfddarllenwyd y dudalen hon
J. E.
YR i'engaf un;
A d'wedai'r awel fwyn ei si,
A phob blodeu'n adwaenwn i,
Mai yr anwylaf ydoedd hi,
O wylaidd lun.
Os gwelai'r swil
Friallen ynddi beth o'i llun,
Yr oedd ei meddwl ar ddi-hûn,
A naturioldeb dawn y fun
Mor bêr a'r dil.
Ehedydd briw
Fu gen' i'n hir; ryw Ebrill ddydd
Fe glywodd lais; ca'dd fyn'd yn rhydd:
Ac felly hi-a'i gwynfyd sydd
I'r riain wiw.
Y FIOLED.
FIOLED fach ystyriol,
Am beth mae'th fyfyr syn?
Ai am ryw bethau anwyl fu,
Nad ydynt erbyn hyn?
Neu am ein byd trafferthus ni?
Neu am ryw fyd sydd wŷn?
Paham nad wyt lawened
A'r glir friallen lon
Sydd gwmni iti yn y glêd
Encilfa dawel hon?
Ai dyfnach yw'th ddedwyddwch di-
Rhy ddwfn i ddangos ton?