Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ym mh'le y mae cyfrinach
Dy ryfedd dlysni gwiw?
Ai yn d'ymgrymol wylder dwys?
Ai yn dy gymysg liw?
Fioled fach ddigyffro, bur,
Digymar dlysni yw!

Paham y mae fy nghalon
Mor hoff o honot ti?
Ai am dy fod yn byw mor bell
O lwybrau twrf a bri?
Ai ynte am dy garu gynt
Gan un a welais i?


HEN FYNWENT BRO HUD.

TAIR prudd ywen fel chwiorydd
Yno'n gwylio sydd,
Hudant ambell fwyn delorydd
Seinia dônau dydd;
A'r awelon rhwng eu cangau,
Er yn lleddf eu sû,
A sibrydant nas gall angau,
Deithydd du,
Hel o fod sisialau fu.

Tyn beddrodau at y meini
Hiraeth byrr ei hûn;
Yno mae rhyw lu o'r rheini,
Oes, ac hefyd un.
Mae at hwnnw fil o weithiau
Un pererin ài,
Heb ei flino gan y teithiau,
Pe y ca'i
Glywed llais a'i llawenhâi.